#

 

 

 


Rhif yr e-ddeiseb: P-05-791

Teitl y ddeiseb: Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru

Testun y ddeiseb:

Mae bron deng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru ddiddymu taliadau parcio mewn ysbytai ac eto, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i roi contract i Indigo Parking UK sy'n mynd ati'n ddidrugaredd i ddirwyo staff gweithgar y GIG a chleifion gwael, sef y rheini sydd lleiaf tebygol o fedru eu fforddio! The members of society who can least afford it!

Mae'n hen bryd diddymu contractau parcio yn ysbytai Cymru ar unwaith ac atal y cwmnïau hyn rhag codi tâl ar y bobl wannaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.​

Gwybodaeth ychwanegol:

Nod y ddeiseb hon yw dangos cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael dirwy gan gwmnïau gorfodi fel Indigo Parking UK, a hynny'n aml ar yr adeg pan oeddent ar eu gwannaf.

Dylai bod modd defnyddio'r gyfraith i gael gwared ar y cwmnïau hyn a dylid dangos nad oes croeso iddynt yng Nghymru.​                                                                                 


Cefndir

Ym mis Mawrth 2008, gwnaeth Edwina Hart AC, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, gyhoeddiad y byddai cyfundrefn parcio am ddim yn cael ei gweithredu o 1 Ebrill 2008 ymlaen ym mhob un o ysbytai y GIG, ac eithrio'r achosion hynny lle'r oedd contractau allanol ar waith. Roedd disgwyl i ymddiriedolaethau blaenorol y GIG a oedd wedi trefnu contractau allanol leihau eu ffioedd parcio, ac roedd gofyn iddynt gynnig a chyllido cynlluniau ar gyfer lleihau costau tan y byddai'r contractau hynny'n dod i ben.

O ran ysbytai GIG Cymru lle mae contractau parcio yn parhau i fod ar waith, mae gan Ysbyty'r Barri, Ysbyty Dewi Sant ac Ysbyty Athrofaol Llandochau gontractau parcio â Parking Eye a fydd yn dod i ben ar 31 Hydref 2018. Yn ogystal, mae gan Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd (UHW) gontract parcio gydag Indigo sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2018.

 

Mae costau parcio Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'u rhewi, ac nid ydynt wedi cynyddu yn unol â chwyddiant ers 2008.  Gall claf sydd angen cyfnod estynedig o driniaeth, neu berthynas sy'n ymweld â chlaf am gyfnod estynedig, brynu tocyn Alpha, sy'n eu galluogi i barcio am bris gostyngedig.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Indigo, y cwmni sy'n rheoli'r trefniadau parcio ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi cytuno ar gyfres newydd o fesurau ar gyfer gwella'r trefniadau parcio ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru. Daeth y mesurau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.  Rhoddwyd cyfres o fesurau tymor byr ar waith, a'r bwriad yw darparu atebion mwy cynaliadwy yn y tymor hwy sy'n ceisio gwella mynediad at y safle, hwyluso llif y traffig, a gwella'r cyfleusterau parcio.

Fel rhan o gontract a gafodd ei ail-negodi, cytunodd Indigo i atal y broses orfodi mewn perthynas â rhybuddion taliadau parcio hyd at ddiwedd mis Mawrth 2016. Mae trefniadau cytundebol newydd wedi bod ar waith ers 1 Ebrill 2016, a byddant yn gymwys hyd nes bydd y contract gydag Indigo yn dod i ben yn 2018.

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb yn cadarnhau bod contract parcio allanol yn weithredol ar gyfer safle Ysbyty Athrofaol Cymru hyd at fis Mawrth 2018. Mae hefyd yn cadarnhau, mewn achosion lle mae contractau allanol ar waith, fod cais wedi'i wneud i sefydliadau'r GIG leihau costau hyd nes i'r contractau hynny ddod i ben.  Mae'r ymateb hefyd yn nodi bod y gost o dynnu yn ôl o'r contractau unigol yn cael ei hystyried yn rhy uchel.